Portffolio
Dyma gasgliad o’r gwefannau rwyf wedi creu neu helpu i greu.
Os ti’n licio be ti’n gweld, pam ddim cysylltu â mi i weld be fedrai wneud i ti?
EilirPierce.com

Crewyd y wefan i gyd-ddigwydd â lawnsiad yr albym Degadawns. Testun mawr, plaen a chryf ar gefndir lliwgar syml, a gyd-daro a phrysurwch y cefndir, sef clawr yr albym.
Y Sioe Gelf

Cymrwyd dyluniad gan RoughCollie , ac ei roi ar esgyrn system Wordpress i greu gwefan effeithiol.
SMS Eisteddfod yr Urdd

Gwasanaeth canlyniadau ffôn symudol i Eisteddfod yr Urdd. Gellir anfon rhif y gystadleuaeth a cael canlyniadau’r rhagbrawf a’r llwyfan yn ôl.
Nos Da

Troi dyluniad gan Sbellcheck yn wefan gyda system newyddion syml.
Alun Ffred Jones

Thema Wordpress ar gyfer yr Aelod Cynulliad, Alun Ffred Jones.
Y Gogs

Thema Wordpress ar gyfer gwefan y tim rygbi hen hogia o Gaernarfon, Y Gogs.
Cor Cyntaf i’r Felin

Addasu templad presennol i’w wneud yn unigryw ar gyfer gwefan Cor Cyntaf i’r Felin.
Siwan Llynor

Cyfle i ddysgu mwy am yr actores a’r gantores Siwan Llynor.
Henfryn

Gwefan i hyrwyddo safle carafanio Fferm Henfryn, yng Nghlwyd. Ar hyn o bryd (15/2/08), mae’r wefan yn rhif 1 ar Google am “Certified Location Wales.
Priodas Bryn & Lowri

Gwefan i roi gwybdoaeth am briodas Bryn a Lowri Ellis.