Ategyn chwilio yw hwn i Firefox, i allu chwilio am air Saesneg yn Geiriadur.net mewn ffordd hawdd.
Nid estyniad mohono, ond ategyn chwilio, felly gellir ei osod a dechrau ei ddefnyddio'n syth - 'does dim angen ail ddechrau'r porwr.
Clicia ar y saeth sydd wrth ymyl y blwch chwilio.
Dyma sut mae'n edrych ar fy nghyfirifiadur i:
Bydd yr opsiwn Add "Saesneg i Gymraeg" yna. Clicia arna fo. Dyna ni.
Bydd yn gweithio o fewn tua 5 eiliad.
Clicia ar y saeth, a dewisa 'Geiriadur.net'. Teipia'r gair ti'n chwilio, a phwysa Return. Byddi'n mynd i dudalen Geiriadur.net i weld os oes cyfieithiad.
Os hoffet ti ysgrifennu rhywbeth tebyg, yna cer i dudalen Mozilla ar greu ategynnau chwilio.