8 Meddalwedd i’r Tymor Newydd
Dechrau nol yn yr ysgol neu’r coleg yn fuan?
Dyma fy top tips am be ti angen i gael dy gyfrifiadur i neud be ti angen.
1. Firefox - fy hoff ddarn o feddalwedd, mae fersiwn 3.01 o’r porwr poblogaidd yn cynnwys gwell adnoddau i ddefnyddio web-apps (google docs, zoho, ayyb), yn fwy diogel ac yn cynnwys llu o nodweddion eraill i wneud pori’r we yn brofiad pleserus.
2. AVG - Meddalwedd gwrth feirws, os ti’n defnyddio Windows mae hyn yn hanfodol (a paid anghofio’r firewall!).
3. Spybot Search & Destroy - yr arf nesaf i warchod dy gyfrifiadur, mae Spybot yn sicrhau nad oes unrhyw spyware yn rhannu dy weithgareddau electroneg â neb (beth yw’r gwahaniaeth rhwng viruses a spyware?)
4. OpenOffice.org - Paid a cael dy dwyllo gan MS Office Student Edition (sydd dros £100), mae OpenOffice.org yn cynnig Prosesydd Geiriau (Writer), Spreadsheets (Calc), Bas Data (Base), Cyflwyniadau (Impress) a mwy, ac yn gallu agor a cadw ffeils mewn fformat Office, ac yn gallu creu PDFs.
5. Miro - Wnaiff Miro droi dy gyfrifiadur yn deledu, gan lawrlwytho dy hoff gynnwys yn awtomatig. Pwy sy angen trwydded? (Na, go iawn. Os nad oes Cerdyn Teledu yn y cyfrifiadur ni fydd angen trwydded).
6. uTorrent - Cleient bittorrent bychan ac effeithlon, wnaiff lawrlwytho yn y cefndir heb amharau (llawer) ar berfformiad y peiriant.
7. Foxit Reader - Anghofia Adobe Reader, mae o’n cymryd hir i osod ar y cyfrifiadur, yn araf ac yn sugno adnoddau’r cyfrifiadur. Mae Foxit yn fychan ac yn gyflym ac yn aidial.
8. Ubuntu - Ac i’r gwir fentrus, anghofia Windows yn gyfangwbl, a defnyddia Ubuntu. Mae’n dod gyda popeth ti angen i ddechrau tymor newydd wedi’i osod arno’n barod. Mae werth ystyried Ubuntu hefyd os ti di cael hen laptop sy’n dangos ei oed. Buasai gosodiad fresh o Ubuntu yn rhedeg yn gret,
9. VLC - Y Gyllell Boced Swiss o chwaraewyr fideo, os nad yw VLC yn ei chwarae wneith dim byd y job.
10. Audacity - Golygydd sain yw Audacity, gall droi dy wavs yn mp3s, creu ringtones mp3 a recordio, torri a golygu sain fel rhaglen broffesiynol. Os oes gen ti feicroffon ar dy gyfrifiadur, gelli di recordio dy ddarlithoedd, a’u storio fel mp3 erbyn dy finals!
Unrhywbeth dwi wedi methu? Gad mi wybod yn y sylwadau.
Mwy am y neges
Rwyt ti'n darllen “8 Meddalwedd i’r Tymor Newydd” ar mei.gwilym.net
- Cyhoeddwyd:
- 09.09.08 / 1pm
- Pwnc:
- Firefox, ubuntu, gwersi, gwybodaeth
- Cymdeithaseg:
- del.icio.us reddit.com
Nid oes sylwadau
Ni chaniateir sylwadau ar y neges hon.