500 miliwn Firefox
Mae Mozilla yn dathlu ar ôl i’r 500 000 000ed copi o Firefox gael ei lawrlwytho. 
Dwi wedi defnyddio Firefox ers fersiwn 1.0.2 yn 2005, a rwy’n ffanboi comited erbyn hyn. Ro’n i’n arfer bod yn IE-garwr (wir), ond buan iawn sylweddolais fy nghulrwydd.
Mae gan y fersiwn diweddaraf (2.0.x) broblemau memory leaks, ond mae fersiwn 3 yn gaddo rhoi diwedd i’r rheiny. Dwi wedi lawrlwytho y trydydd fersiwn beta o’r un newydd, a dwi’n disgwyl ymlaen i ddefnyddio’r un swyddogol.
Os nad wyt ti wedi’i ddefnyddio, yna cer i getfirefox.com a lawrlwytha copi rwan. Mae’r ffeil ond tua 7-8Mb, ac yna byddi’n sylweddoli ei bod cariad dynol-meddalwedd yn bosib.
Mwy am y neges
Rwyt ti'n darllen “500 miliwn Firefox” ar mei.gwilym.net
- Cyhoeddwyd:
- 22.02.08 / 4pm
- Cymdeithaseg:
- del.icio.us reddit.com
Nid oes sylwadau
Ni chaniateir sylwadau ar y neges hon.