Cyfieithyn i Firefox
Rai misoedd yn ôl ysgrifennais bookmarklet i gyfieithu Cymraeg/Saesneg, a fe’i gyhoeddais ar y Daily Meil.
Dwi dal yn eu defnyddio, ond o’n i wastad am wneud un oedd chydig yn well.
Wel rwan dwi wedi gallu gwneud hynny. Yn y Cae Swings, gelli di ychwanegu ategyn chwilio i Firefox. Bydd yn ychwanegu opsiwn i’r blwch chwilio yn Firefox i gyfieithu geiriau o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Mae mwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar y dudalen ei hun: Cyfieithyn i Firefox
Os ti’n ei ddefnyddio, cofia adael mi wybod!
Mwy am y neges
Rwyt ti'n darllen “Cyfieithyn i Firefox” ar mei.gwilym.net
- Cyhoeddwyd:
- 26.09.07 / 12pm
- Cymdeithaseg:
- del.icio.us reddit.com
Nid oes sylwadau
Ni chaniateir sylwadau ar y neges hon.