Rhoi Google Map ar dy flog
Ers i mi ’sgwennu’r cofnod am sut i greu map efo My Maps, mae Google wedi ychwanegu’r gallu i ymgorffori’r map mewn gwefan neu flog.
Yn My Maps, yn y gornel uchaf dde, mae’r opsiwn Link to This Page. Ar ôl ei glicio ti’n cael y dewis o ddolen arferol neu cod HTML i gynnwys y map yn dy flog (Paste HTML to embed in website).
Mater syml yw copïo’r côd a’i bastio ar dy flog, fel dwi ‘di neud fan hyn gyda map o lle eshi am dro dydd Sul. Mae ‘na hefyd opsiwn i newid sut mae’r map yn edrych i dy siwtio di (ac i’w Gymreigio ‘chydig, newidia View Large Map sydd ar ddiwedd y côd i Gweld Map Mwy [neu be’ bynnag]).
Mwy am y neges
Rwyt ti'n darllen “Rhoi Google Map ar dy flog” ar mei.gwilym.net
- Cyhoeddwyd:
- 12.09.07 / 10am
- Cymdeithaseg:
- del.icio.us reddit.com
Nid oes sylwadau
Ni chaniateir sylwadau ar y neges hon.