Sut i gael Ffonts newydd Ffynci

Mae’r PC neu’r Mac yn dod gyda nifer o ffontiau, ond yn aml nid yw’r rhain yn addas ar gyfer rhai tasgau. Felly dyma wers gyflym ar ddarganfod ffonts newydd a sut i’w gosod ar y cyfrifiadur.

Mae ‘na ddegau os nad cannoedd o wefannau yn cynnig ffonts diddorol a defnyddiol am ddim.

Fy hoff wefan i am hyn yw dafont.com. Mae ‘na gannoedd yma, a nifer o rai poblogaidd.

Mae dafont.com yn darparu’r ffonts mewn ffeils wedi’i zipio. Ar ôl lawrlwytho’r ffeil a’i agor, mae angen rhoi ffeiliau’r ffont (weithiau mae mwy na un: bold, italic ayyb) yn ffolder ffontiau Windows. Mae’r ffolder yma yn C:\WINDOWS\fonts. Mater syml yw llusgo’r ffeiliau i’r ffolder hon, a bydd Windows yn eu gosod.

Dyma ddewis o fy nghasgliad i. Dwi wedi dewis rhai ffontiau sydd efallai yn gyfarwydd, a rhai sy’n anghyfarwydd, ond maent i gyd yn rhai da.

Delicious - ar gael o wefan y dylunydd, Jos Buivenga.

Ffont Delicious

Marcelle - ar gael o dafont.com.

Ffont Marcelle

Alba - ar gael o dafont.com.

Ffont Alba

Base 02 - ar gael o dafont.com.

Ffont Base 02

Unicorn - ar gael o dafont.com.

Ffont Unicorn

NewMedia - ar gael o wefan y dylunydd, Denis Potschien (yn Almaeneg).

Ffont NewMedia


Mwy am y neges