Mapiau a Modelu

Mae Google newydd ryddhau fersiwn newydd o’u application mapio poblogaidd, My Maps.

Mae My Maps yn gwneud beth mae llawer o mashups wedi bod yn gwneud ers amser, sef galluogi defnyddwyr i dynnu lluniau ar fap, a rhannu’r wybodaeth hynny.

Gellir ei ddefnyddio felly i lunio taith gerdded neu beicio, ardaloedd, lleoedd ayyb ayyb. Mae ‘na lot o botensial.

Dyma wers gyflym felly’n dangos sut mae gwneud hyn.

Yn gyntaf, dos i Google Maps http://maps.google.com/

Bydd o unai’n dangos y byd neu gogledd America i ti, neu’r lleoliad ti wedi gosod eisoes.

Ar frig y golofn ar yr ochr chwith, clicia ar My Maps, ac yna Create new map.

Rho enw a disgrifiad i dy fap. Dwi am ddefnyddio taith gerdded wnes i’n ddiweddar, sef o Feddgelert i Lanrug, gan fynd fyny llwybr Watcyn a dros y Lliwedd i Ben y Pass.

Mae pedwar botwm ychwanegol yn ymddangos ar y map, sef

  • y law - i symud y map o gwmpas
  • y swigen - i ychwanegu placemark
  • y linell - i ychwanegu llinellau
  • y polygon - i ychwanegu siap neu ardal

Botymau My Maps

Felly defnyddia’r law a’r zoom i fynd i’r ardal lle ti am wneud dy fap. Dyma’r sgrin dwi’n weld.

Y sgrin ddechreuol

Clicia ar y Linell, a dechreua dynnu’r llinell ar y map drwy glicio unwaith. Rho glic ddwbl pan mae’r llwybr wedi gorffen. Rho enw i’r llwybr, a disgrifiad.

I wneud y map ‘chydig yn fwy diddorol, wnes i roi placemarks yma ac acw er mwyn esbonio lle o’n i. Clicia ar y botwm Placemark, a chlia ar y map ble ti am ei roi. Rho enw a disgrifiad i’r placemark, e.e. Nant Peris - Dyma ble ges i beint a’r bws i Lanberis.

I wneud siap neu ardal, mae’r broses yr un peth. Clicio ar y botwm, a tynnu’r siap ar y map. Dim ond clicio ar bwynt cyntaf i siap sydd angen i’w gau, a bydd angen enw a disgrifiad.

Ar ôl cwblhau’r camau hyn, dylet ti fod a map yn barod i’w rannu.

Y Map Gorffenedig

Y ffordd symla yw clicio ar Email, sydd uwchben y map ar y dde. Bydd hyn yn creu neges ebost gyda dolen i’r map yn y neges. Neu chlicia ar Link to This Page, a chopïa’r ddolen i neges ebost, dy flog ayyb.

Be wnes i oedd cadw’r map fel ffeil .KML. Clicia ar KML, a cadwa’r ffeil rhywle ar dy gyfrifiadur (e.e. ar y penbwrdd).

Gellir wedyn ei hagor gyda Google Earth. Os nad wyt ti â Google Earth, mae’n raglen sydd ar gael am ddim gan Google, a sy’n dangos y byd i ti fel model 3D gyda ffotograffs o’r awyr. (Gellir lawrlwytho Google Earth yma. Ar ol agor Google Earth, clicia ar File yna Open (neu Control+O). Dos i’r penbwrdd a dewisa’r ffeil .KML ti newydd gadw o GMaps.)

Bydd y map yn y bar ochr, rho clic ddwbl a bydd Google yn hedfan ti i’r lleoliad gyda dy fap yn ymddangos arno (os na, gwna’n siwr bod y tic yn y blwch wrth enw’r map). Dylet ti gael rhywbeth fel hyn:

Llanberis a’r Ardal


Mwy am y neges