Cymdeithasu’r Blog

I annog defnyddwyr i roi erthyglau ar blas.us a digg, dwi wedi rhoi botymau bach yn y bar ar yr ochr chwith.

Gan ddefnyddio tagiau Wordpress, mae gwneud hyn yn syml.

Penderfyna gynta’ lle bydd y dolenni yn mynd. Dwi wedi’i roi yn single.php, ond mae yn y bar ochr (sidebar.php) hefyd yn opsiwn.

Nesaf, mae angen eu rhoi mewn tags HTML. Dwi’n meddwl mai ordered list bydd orau yma. Dyma’r sylfaen:

  <ul>
    <li><a href="" title=""></a></li>
  </ul>

Nesaf mae angen testun i’r ddolen, a llenwi’r briodoledd href a’r title. Mae blas.us a digg gyda tudalennau arbennig i dderbyn dolenni. Mae’r URLs yma yn cymryd gwybodaeth o’r URL ei hun.

  <ul>
    <li><a href="http://del.icio.us/post?url=&amp;title=" title="Ychwanegu'r neges hon i del.icio.us">del.icio.us</a></li>
    <li><a href="http://digg.com/submit?phase=2&amp;url=&amp;title=" title="Anfon y dudalen i Digg">digg.com</a></li>
  </ul>

Mae testun y ddolen ei hun yn syml; dwi’n gadael i’r title roi mwy o wybodaeth am beth mae’r ddolen yn gwneud.

Nid yw’r dolenni wedi’u gorffen eto, mae angen tagiau Wordpress i roi’r wybodaeth i blas.us a digg i hwyluso gwaith y defnyddiwr.

I ddolen blas.us, mae angen rhoi URL y dudalen, a’r teitl:

    <li><a href="http://del.icio.us/post?url=<?php the_permalink(); ?>&amp;title=<?php the_title(); ?>" title="Ychwanegu'r neges hon i del.icio.us">del.icio.us</a></li>

Gyda’r tagiau the_permalink() a the_title(), bydd Wordpress yn rhoi’r wybodaeth fewn yn awtomatig am bob erthygl ar y blog. Yr un peth i digg:

  <li><a href="http://digg.com/submit?phase=2&amp;url=<?php the_permalink(); ?>&amp;title=<?php the_title(); ?>" title="Anfon y dudalen i Digg">digg.com&lt;/a></li>

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith wedi’i wneud. Gellir ei adael fel hyn, os mai dyma tisho, ond dwi’n licio ychwanegu tamaid gweledol i’r ddolen. Mae logo y ddwy wefan yn dal llygad y rhai sy’n ei defnyddio, felly mae werth eu cynnwys gyda’r dolenni.

Gyda chydig o CSS dyw hyn ddim problem, ond rhaid cael y logos o’u gwefannau gyntaf, e’u rhoi yn y ffolder images yn y ffolder thema. Ychwanegu enw class i’r ddau ddolen

  <li><a href="http://del.icio.us/post?url=<?php the_permalink(); ?>&amp;title=<?php the_title(); ?>" title="Ychwanegu'r neges hon i del.icio.us" class="link-delicious">del.icio.us</a></li>
  <li><a href="http://digg.com/submit?phase=2&amp;url=<?php the_permalink(); ?>&amp;title=<?php the_title(); ?>" title="Anfon y dudalen i Digg" class="link-digg">digg.com</a></li>

Ac yna yn y ffeil CSS:

a.link-delicious {
padding-left:12px;
background:url(images/delicious.gif) center left no-repeat;
}
a.link-digg {
padding-left:18px;
background:url(images/digg.gif) center left no-repeat;
}

Mae’r padding-left yn creu lle o fewn y ddolen, sy’n cael ei llenwir efo’r ddelwedd gefndir.

A dyna ni. Gobeithio wneith hyn fynd chydig bach at godi’r traffig i dy flog.

[Hefyd sylwer mod i wedi defnyddio côd HTML am y ? yn yr URLs. Mae hyn i sicrhau ei fod yn XHTML.]


Mwy am y neges