Safari ar Windows

Newyddion da i wê ddatblygwyr: mae Apple wedi rhyddhau fersiwn newydd o Safari, eu porwr poblogaidd, i Windows.

Gellir ddad-lwytho’r porwr o dudalennau Apple.com.

Mae hyn wrth gwrs hefyd yn newyddion da i ddefnyddwyr Safari, gan bydd llawer mwy o ddatblygwyr a dylunwyr rwan yn gallu profi eu gwaith yn y porwr, sy’n golygu llawer mwy o wefannau yn edrych fel maent i fod yn Safari.

Dwi’n disgwyl ymlaen i’w ddefnyddio, i gael cymharu gyda fy hoff borwr Firefox 2.0. Mae stats Apple yn ddiddorol, gan honni bod Safari yn gyflymach na Firefox am arddangos HTML, lwytho Javascript a llwytho applications.


Mwy am y neges