Esblygiad Dyluniad
Tra ar gwrs Cyfle y flwyddyn diwethaf, o’n i’n lwcus i gael mynd lawr i gynhadledd d.Construct ym Mrighton.
Mae’n gynhadledd undydd am ddylunio ac adeiladu’r web apps, a dysgais i lot yn 2006.
Mae Clear Left, y cwmni sy’n trefnu’r gynhadledd wedi lawnsio’r wefan am gynhadledd 2007. A gan bod y gynhadledd y flwyddyn hon am ‘Profiad y Defnyddiwr’ (the user experience) mae dyluniad y wefan yn adlewyrchu hynny.
Mae’r dyluniad wedi gadael y cyfnod wireframing, ac yn awr yn y cofnod sgetchio syniadau.
Dros y tri mis nesaf, bydd y dyluniad yn esblygu, gyda’r dyluniad terfynol ym mis Awst.
Mwy am y neges
Rwyt ti'n darllen “Esblygiad Dyluniad” ar mei.gwilym.net
- Cyhoeddwyd:
- 06.06.07 / 12pm
- Pwnc:
- Y We, dConstruct, Dylunio
- Cymdeithaseg:
- del.icio.us reddit.com
Nid oes sylwadau
Ni chaniateir sylwadau ar y neges hon.