RSS - hogyn papur newydd y wê
Dwi’n defnyddio RSS ers rhyw ddwy flynedd rwan i gadw fyny â’r newyddion.
Yn gyntaf gyda Firefox Live Bookmarks, ac erbyn hyn Bloglines, mae ffrydau newyddion yn rhan o fywyd pob dydd i mi.
Ond mae ‘na dal nifer o bobl sydd ddim yn eu defnyddio, ac sydd efallai ar goll yng nghanol yr holl acronymau a jargon.
Felly beth yw ffrwd newyddion, a pam ddylai rhywun ei ddefnyddio?
Sylweddolodd rhyw werthwr papur newydd blynyddoedd yn ôl bod pobl eisiau darllen eu papur newydd cyn mynd i’r gwaith. Felly cyflogodd bachgen i ddosbarthu papurau i’w gwsmeriaid yn gynnar yn y bore.
Felly, mae ffrydau newyddion rhywbeth yn debyg.
Yn hytrach na mynd i’r BBC, y Guardian neu ba bynnag wefan ei darllenir yn aml, ti’n cael y wefan i ddod i ti, pan mae’n gyfleus i ti. Pan fyddai’n ymweld â Bloglines mae’n dangos i mi pa wefannau sydd â chynnwys newydd ers y tro diwethaf i mi eu darllen.
Os nad yw hynny’n gwneud synnwyr, y ffordd orau yw rhoi tro arni.
Hyd y gwn i mae Internet Explorer 7 yn cynnig Live Bookmarks, ond nid ydw i’n gyfarwydd gyda o gwbl, felly mi sticia’i i Firefox.
Pan weli y symbol Ffrwd ym mar cyfeiriad y porwr, mae’r wefan ag un neu fwy o ffrydau newyddion ar gael (e.e. gwefan newyddion y BBC). Drwy glicio ar y symbol hwn byddi’n cael dewis gan i danysgrifo i’r ffrwd mewn sawl modd. Ar hyn o bryd dewisa Live Bookmarks, a’i roi yn y ffolder Bookmars Toolbar. Bydd y llyfrnodyn yn ymddangos yn y bar uwchben y dudalen (os na elli weld y Bookmarks Toolbar, gwna siwr bod View>Toolbar>Bookmarks Toolbar gyda tic wrth ei ymyl).
Os glicia di ar y llyfrnodyn, byddi’n gweld y rhestr o’r penawdau diweddaraf. O dro i dro bydd y penawdau hyn yn cael eu diweddaru fel mae’r wefan yn cael ei diweddaru, a does ond angen clicio unwaith ar y llyfrnodyn i allu gwneud hyn.
Mae’n amlwg rwan bod hyn llawer hwylusach na mynd i’r wefan a disgwyl i’r dudalen lwytho, ac yn sicr mwy hwylus na gwneud hynny i fwy nag un gwefan pob dydd.
Mwy am y neges
Rwyt ti'n darllen “RSS - hogyn papur newydd y wê” ar mei.gwilym.net
- Cyhoeddwyd:
- 17.05.07 / 10pm
- Cymdeithaseg:
- del.icio.us reddit.com
Nid oes sylwadau
Ni chaniateir sylwadau ar y neges hon.