Acenion

Er mwyn hwyluso’r teipio, dwi wedi hacio plugin i osod llythrennau acennog i Wordpress yn awtomatig.

Enw’r plugin yw Acenion, a gellir ei lawrlwytho i’w defnyddio yma.

Cyfarwyddiadau:

  • Dadzipio’r ffeil a’i ftpio i’r ffolder plugins.
  • Activatio’r plugin yn y dashboard, a bydd yn ymddangos uwchben y bar ochr pan yn ysgrifennu neges newydd.
  • Mae angen bod yn ‘Code’ i’w ddefnyddio, a does ond angen clicio ar y lythyren a bydd yn ymddangos gyda gweddill y neges.

A dyna ni, dylai’r gwaith o deipio รข ayyb leihau o hyn ymlaen.

Mae ‘na nifer o bethau i’w gwneud i’w wella. Rho unrhyw awgrymiadau yn y sylwadau, diolch.

Diolch i Alcandre.net am y gwreiddiol. Merci!

Gol, 18/05/07: Wedi ychwnegu tamaid, i fersiwn 0.2 rwan.


Mwy am y neges