Gwglo diddiwedd

Dwi wedi gosod Greasemonkey ar Firefox ers tro, ond dwi ‘rioed wedi’i ddefnyddio yn iawn. Mae Greasemonkey yn estyniad i Firefox sy’n galluogi defnyddwyr i customizio tudalennau.

Ddoe ‘deshi ar draws y script Google Autopager ar LifeHacker, a dwi wedi’i osod yn syth.

Pan yn chwilio Google, mae’r script yn llwytho’r dudalen nesaf o ganlyniadau i waelod y dudalen yn awtomatig, felly nid oes angen clicio ar ‘Tudalen Nesaf’.

Efallai nad yw hyn yn swnio’n ddefnyddiol, gan gellir osod Google i arddangos 10, 20, 30, 50 neu 100 o ganlyniadau. Digon gwir, ond mae angen llwytho’r holl ganlyniadau hynny gyntaf. Gyda AutoPager dim ond y canlyniadau presennol sy’n cael eu llwytho, ac ar ôl cyrraedd diwedd y dudalen. System effeithlon iawn a chyflym felly i bori canlyniadau.

Mae hefyd yn agor pob dolen mewn tab neu ffenestr newydd, dwi ddim yn siwr am y hyn eto, ond dwi am ei adael ymlaen am rwan.

Mae’r script hwn a nifer fawr o rai eraill ar gael ar userscripts.org.

Gol: Os hoffet ti’r dolenni i agor yn yr un tab/ffenestr, yna mae angen newid ‘_blank’ ar linell 112 i ‘_self’.


Mwy am y neges